top of page
Search
SteffHowells

PÊL RWYD CYMRU: RHEOLI RISG COVID

Updated: Mar 30, 2021

Mae rheoli risg yn rhan bwysig o lywodraethu da ac mae Covid yn sicr wedi profi sefydliadau chwaraeon Cymru mewn ffordd gwbl ddigynsail.

Cyhoeddwyd canllawiau hir a chymhleth yn ystod y 12 mis diwethaf gan Lywodraeth Cymru i atal pob gweithgaredd chwaraeon ac i lacio'r cyfyngiadau wrth i lefel yr haint ostwng. Mae wedi ei gwneud yn ofynnol i gyrff rheoli chwaraeon drosi'r dogfennau'n gyngor i'w clybiau a’u haelodau.


Fe gawsom ni sgwrs gyda Vicki Sutton o Bêl Rwyd Cymru i weld sut maen nhw wedi ymdopi:

"Mae'r canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi ar lefel uchel iawn ac yn destun rhywfaint o ddehongli. Byddai'n amhosib i Lywodraeth Cymru roi gwybodaeth fanwl iawn ac wedi'i theilwra i bob sefydliad a phob sector. Mae gennym ni ddyletswydd o ofal i ddiogelu ein haelodau ac mae hynny'n golygu bod gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod y ffordd rydyn ni’n deall ac yn cyfathrebu'r cyfyngiadau yn gadarn yn gyfreithiol a bod gennym ni – a'n clybiau – yswiriant."


Cefnogaeth gyfreithiol

Trodd Pêl Rwyd Cymru at Vibrant Nation yn fuan iawn a darparodd gymorth un i un drwy Iolis Legal – ymgynghoriaeth llywodraethu cyfreithiol sydd wedi dod yn arbenigwr ar ddehongli effaith rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru ar chwaraeon yng Nghymru.

"Fel sefydliad buddiolwr rhaglen GLFW, roedd ein sesiynau cyntaf ni am ddim ac wedyn fe wnaethom ddefnydd o’r gyfradd is ar gyfer unrhyw waith ychwanegol. Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod mor ansicr ond fe wnaeth Andrew, ymgynghorydd arweiniol Iolis, roi amser i ddeall goblygiadau'r canllawiau'n llawn ac wedyn roeddem yn gallu teimlo'n hyderus i gynghori ein clybiau.


"Fe wnaeth Andrew hefyd ein helpu ni gyda'n hyfforddiant Swyddog Covid, a helpodd i sicrhau ein clybiau y gallent ddychwelyd i ryw lefel o hyfforddiant a chydymffurfio'n llawn. Mae hyn hefyd wedi rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau'n gyfrifol ac yn effeithiol."


"Mae'r gefnogaeth gan WSA a Vibrant Nation wedi bod yn eithriadol ac wedi helpu cymaint gydag eglurder y cyfyngiadau ar weithredu. Mae hyn yn ei dro wedi sicrhau bod ein haelodau wedi cael gwybodaeth lawn a'u haddysgu'n drwyadl a'n bod ni, fel y corff rheoli, yn cydymffurfio'n gyfreithiol."




Yr her i gamp cyswllt agos

Cyn Covid, roedd Pêl Rwyd Cymru yn dathlu'r lefel uchaf erioed o 10,000 o aelodau. Ond ers 13 Mawrth 2020, does dim un gêm bêl rwyd gystadleuol wedi’i chwarae, ac eithrio'r Dreigiau Celtaidd sydd â chaniatâd arbennig i chwarae yn Uwchgynghrair Pêl Rwyd Vitality. Mae pêl rwyd wrth gwrs yn gamp cyswllt agos – yn ei fformat cystadleuol – ac yn cael ei chwarae dan do gyda phedwar chwaraewr ar ddeg ar y cwrt – ac mae hyn wedi achosi heriau difrifol i Bêl Rwyd Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf.


"Fe wnaethon ni ddathlu bod â 10,000 o aelodau cyn Covid ond rydyn ni'n gwybod na fyddwn ni'n dychwelyd i’r un sefyllfa. Er hynny, mae'r gefnogaeth barhaus gan WSA o ran rheoli risg, a gwybodaeth amserol am gyfeiriad gwleidyddol a phenderfyniadau allweddol, yn golygu y gallwn barhau i adeiladu'n ôl yn well."

22 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page