Ar ddechrau argyfwng Covid-19, roedd Undeb Rygbi Cymru yn meddwl tybed a fyddai aros gartref yn peryglu ei gysylltiadau cymunedol. Ac eto, drwy gofleidio platfformau TG, efallai bod y perthnasoedd hynny yn gadarnach nag erioed, meddai'r Cyfarwyddwr Cymunedol Geraint John:
"Mae wedi bod yn 12 mis rhyfedd ond rydyn ni wedi cyflawni llawer er gwaetha’r cyfyngiadau. Rydyn ni wedi cwblhau llawer iawn o waith ar ein strategaeth gymunedol sydd i fod i gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni ac rydyn ni’n gwneud cynnydd sylweddol gyda nifer o brosiectau eraill – rydyn ni’n adolygu'r rhaglen Hwb, ein cystadlaethau yn ogystal â'r ffordd orau o gydnabod a chefnogi gwirfoddolwyr. Rydyn ni hefyd wrthi’n drafftio strategaeth cynhwysiant ac amrywiaeth newydd."
Mae atebolrwydd a thryloywder yn un o themâu allweddol Fframwaith Llywodraethu ac Arwain Cymru ac mae Undeb Rygbi Cymru wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ei weithredoedd a'i benderfyniadau’n bodloni unrhyw graffu:
"Mae pobl yng Nghymru yn angerddol am rygbi sy'n golygu bod gan lawer o bobl farn ar sut dylid gwneud pethau.
"Ar ddechrau unrhyw strategaeth neu fodel newydd, rydyn ni’n sicrhau bod ein clybiau a'n rhanddeiliaid yn gallu dod gyda ni. Rydyn ni’n sicrhau bod y broses yn gwbl dryloyw. ’Fyddwn ni ddim yn plesio pawb ond ’fydd neb yn gallu dweud nad ydyn nhw'n gwybod beth rydyn ni'n ei wneud na sut rydyn ni wedi dod i benderfyniad."
Mae Geraint yn credu bod y sefydliad wedi gwella ei berthynas â'i ystod eang o randdeiliaid. "Rydw i wedi cael mwy o sgyrsiau gyda phobl o fy ystafell fyw yn ystod y 12 mis diwethaf nag y byddwn i erioed wedi'i wneud o'r blaen."
Gyda phob ffrwd waith – boed yn Strategaeth Gymunedol, yn fodel cyllid newydd neu'n adolygiad o gystadleuaeth – mae Undeb Rygbi Cymru yn penodi grŵp eiriolaeth cenedlaethol gyda chylch gorchwyl a chanllawiau. Mae ganddo broses glir sy'n esbonio sut ceir gwybodaeth a sut bydd Undeb Rygbi Cymru yn adrodd yn ôl.
"Os byddwn yn meddwl am argymhelliad, mae gennym ni restr wirio i sicrhau ein bod wedi cynnal pob cam o'r ymgynghoriad. Mae'n golygu bod gennym ni fframwaith gwneud penderfyniadau a monitro cadarn yn ei le a bod ein prosesau a'n penderfyniadau yn gadarn ac yn dryloyw. Mae gennym ni ddyletswydd i ymgysylltu mwy."
CEFNOGI POBL
Mae ymdrechion Undeb Rygbi Cymru i ymgysylltu â phobl yn ymestyn oddi ar y cae. Mae gan rygbi Cymru fynediad i glybiau ledled Cymru ac mae ymgyrch i'w trawsnewid yn ganolfannau ar gyfer y gymuned lle gall pobl ddod at ei gilydd – efallai ar gyfer iechyd a lles, cylchoedd chwarae a gweithgareddau cymdeithasol.
"Rydyn ni wedi sylweddoli yn ystod Covid bod ein clybiau rygbi ni wedi bod yn ffynhonnell enfawr o gryfder cymunedol ond a ydyn nhw mor groesawgar ag y
gallen nhw fod i bawb? Sut arall gallen nhw gefnogi pobl? Ydyn ni’n creu partneriaeth gyda'r bobl iawn?
"Mae gennym ni ddiddordeb mewn cefnogi pobl ac nid dim ond am 2:30pm ar bnawn Sadwrn!"
Un enghraifft o ddull o weithredu gan Undeb Rygbi Cymru sy'n canolbwyntio ar bobl yw ei waith gyda'r School of Hard Knocks. Wrth i Covid-19 ddechrau effeithio ar lefelau diweithdra, daeth y ddau sefydliad at ei gilydd i gyflwyno sesiynau ar-lein yn rhoi sylw i ysgrifennu CV, lles a gweithgarwch corfforol. Y nod yw rhoi hwb i bobl i fynd yn ôl i gyflogaeth.
RHANNU SYNIADAU
Yn ogystal â chael sgyrsiau gyda rhanddeiliaid, mae Geraint hefyd wedi mwynhau rhannu syniadau gyda chwaraeon eraill.
"Fel gwlad fechan, yn bendant mae angen i ni roi ein pennau at ein gilydd fwy ac mae hynny'n rhywbeth sydd wir wedi digwydd oherwydd y pandemig. Mae gweminarau Cysondeb Busnes Vibrant Nation sy'n dilyn pob adolygiad 21 diwrnod wedi ein helpu ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau polisi ac wedi ein galluogi ni i ddysgu gan ein cydweithwyr.
"Rydw i nawr yn siarad gyda phobl mewn swyddi tebyg am hyfforddi, ymchwil, datblygu'r gêm a recriwtio gwirfoddolwyr. Mae’r WSA wedi bod yn eithriadol o dda o ran dod â ni at ein gilydd ac, ar ôl Covid, byddai'n gas gen i golli cyfeillgarwch chwaraeon eraill. Mae'n rhaid i ni ddal ati i ddatblygu chwaraeon yng Nghymru fel rhan o deulu chwaraeon."
Comments