top of page
Search
SteffHowells

CODI PWYSAU CYMRU: CRYFHAU'R BWRDD ER GWAETHAF COVID

Mae amrywiaeth y Bwrdd yn bwnc llosg i bob corff rheoli ond roedd Codi Pwysau Cymru yn wynebu her fawr na chafodd ei helpu yn sicr gan ddyfodiad Covid.

Dim ond pedwar cyfarwyddwr anweithredol oedd gan y corff rheoli ar ôl – gan gynnwys ei Gadeirydd yr oedd ei dymor wedi dod i ben. Ac wedyn fe darodd Covid.

Dyma’r Swyddog Cefnogi Busnes, Hannah Powell, i esbonio:


"Roedden ni’n wynebu risg o beidio â chael digon o aelodau bwrdd i wneud penderfyniad. A doedd gennym ni ddim merched ar y bwrdd chwaith. Roedden ni’n awyddus i newid hynny ac roedden ni eisiau cyflawni Lefel Sylfaen y Safon Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon.

"Yn sydyn, roedd llawer iawn o waith i'w wneud ond roedden ni hefyd yn delio ag effaith y Coronafeirws."


CYDRADDOLDEB Y RHYWIAU

Yn ffodus, cynigiodd y Cadeirydd aros yn y rôl nes gallai Codi Pwysau Cymru sefydlu bwrdd cytbwys, medrus a chynhwysol. Roedd cydraddoldeb y rhywiau yn amlwg yn fater allweddol ac yn rhywbeth roedd y sefydliad yn awyddus i fynd i'r afael ag ef.

I ddechrau, gyda chefnogaeth Vibrant Nation, adolygodd Codi Pwysau Cymru yr hysbysebion swyddi i sicrhau bod ei recriwtio’n gynhwysol. Cysylltwyd yn rhagweithiol ag ymgeiswyr posibl a gwnaed dau benodiad benywaidd.


CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL AR-LEIN

"Mae tri lle pellach yn cael eu henwebu a'u hethol gan yr aelodaeth," meddai Hannah. "Roedd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i fod i gael ei gynnal fis Mawrth diwethaf ond roedden ni wedi'i ganslo, gan obeithio ei aildrefnu fis neu ddau yn ddiweddarach. Ond wrth gwrs, wrth i amser fynd yn ei flaen, fe wnaethon ni sylweddoli nad oedd Covid yn mynd i unrhyw le yn fuan. Felly fe wnaethon ni benderfynu cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar-lein."


Cafodd Codi Pwysau Cymru gefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a Vibrant Nation:

"Doeddwn i ddim wedi trefnu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o'r blaen ond roedd rhaid i mi sefydlu fersiwn ar-lein. Bu'n rhaid i ni feddwl sut i sefydlu system bleidleisio deg a phenderfynu pa gamau i'w cymryd pe bai’r un nifer o bleidleisiau i ddau ymgeisydd ar y noson. Trefnwyd person annibynnol i gyfrif y pleidleisiau, eu dilysu a chyhoeddi'r canlyniadau. Roedd llawer mwy o bresenoldeb nag yn ystod y blynyddoedd blaenorol a phleidleisiwyd dros dri aelod."


Ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, mae aelodau'r bwrdd wedi ethol Cadeirydd newydd, Darren Rogers, sydd â phrofiad o gadeirio elusen fawr ac sy'n ddyfarnwr codi pwysau hynod gymwys.


LLAIS ANABLEDD

Roedd y bwrdd hefyd wedi cydnabod nad oedd ganddo gynrychiolaeth o chwaraeon anabledd:

"Mae codi pŵer para yn gamp sy'n tyfu'n gyflym ac mae'n bwysig iawn bod y bwrdd yn adlewyrchu amrywiaeth ein haelodaeth. Drwy raglen gefnogi GLFW sy'n cael ei gweithredu gan Vibrant Nation, sicrhawyd cefnogaeth ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol, Cobalt HR Limited, a ailgynlluniodd ein hysbyseb swydd. Cawsom ymateb gwych.


"Mae Nathan Stephens, Paralympiad adnabyddus a Chodwr Pŵer Para, wedi ymuno â ni bellach fel aelod o'r bwrdd ac rydyn ni wrth ein bodd. Mae'n benodiad gwych a bydd yn ased enfawr."


CYNNYDD ENFAWR

Er gwaethaf Covid a'r hafoc mae wedi'i greu yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Codi Pwysau Cymru wedi gwneud cynnydd enfawr yn erbyn Egwyddor 4 y Fframwaith Llywodraethu ac Arwain.


Mae wedi parhau i weithio gyda'r ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol a'i Reolwr Cyfrif Llywodraethu yn Vibrant Nation. Mae rhaglen sefydlu gynhwysfawr a disgrifiadau rôl wedi'u diweddaru ar y gweill fel bod gan aelodau'r bwrdd well dealltwriaeth o'u rhwymedigaethau.

Hefyd mae is-bwyllgorau wedi'u sefydlu ac mae Codi Pwysau Cymru bellach yn bwrw ymlaen i gyflawni lefel ragarweiniol y Safon Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon.

Mae'n ymddangos bod Codi Pwysau Cymru yn ffynnu. Yn sicr, nid yw Covid wedi llwyddo i atal y corff rheoli bach ond cadarn yma rhag bod yn gryfach fyth.

14 views0 comments

Recent Posts

See All

コメント


bottom of page