top of page
Search
  • SteffHowells

CHWARAEON ANABLEDD CYMRU: SGANIO'R GORWEL I GYNLLUNIO YMLAEN

Ar 10 Mawrth 2020, anfonodd Fiona Reid ei Chynllun Gweithredu cyntaf ar gyfer y Coronafeirws at y bwrdd – bron i bythefnos cyn cyhoeddiad Boris Johnson am orchymyn 'Aros Gartref' ledled y DU. Roedd sganio’r gorwel ac asesiad risg yn golygu bod Covid-19 yn gadarn ar radar Fiona, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru.


Fel sefydliad sydd â dyletswydd o ofal i bobl anabl, prif bryder Fiona oedd diogelwch a lles y rhai sydd yng ngofal y sefydliad:

"Fe wnaethon ni ein cyfnod pontio i'r cyfyngiadau symud ymlaen llaw. Mae cyfansoddiad ein tîm a'n cyfranogwyr ni’n golygu bod pobl fwy na thebyg yn fwy ymwybodol o'u hiechyd felly roedd Covid ar ein meddwl ni fel risg. Dechreuodd un o aelodau ein tîm warchod ei hun ddechrau mis Chwefror oherwydd y risg i'w iechyd unigol felly roedden ni eisoes yn gwneud newidiadau i arferion gwaith."


Gweithio gartref

Wythnos cyn cyfyngiadau symud y DU, caeodd Chwaraeon Anabledd Cymru ei swyddfeydd a newid i weithio gartref:


"Doedden ni ddim yn meddwl y byddai am fwy na thri mis ond dyma ni 12 mis yn ddiweddarach! Fe wnes i greu canllaw i weithio gartref a chynnwys ar y pwynt hwnnw ymarferion ymestyn a symud cynhwysol i dorri ar yr anweithgarwch wrth eistedd o flaen gliniadur. Fe wnaethon ni gynnal asesiadau risg ar gyfer y mannau lle'r oedd y tîm yn gweithio a sicrhau bod gan bawb bopeth yr oedd arnyn nhw ei angen i weithio'n ddiogel gartref. Rydyn ni bellach yn ailadrodd hynny bob chwe mis."

Roedd cael rhybudd yn golygu bod gan y tîm yn Chwaraeon Anabledd Cymru amser i gynllunio a chael sgyrsiau mewn "ffordd lai adweithiol":


"Yn ffodus, roedden ni wedi defnyddio fideo-gynadledda erioed; roedden ni wedi arfer â chyfarfodydd rhithwir gan fod y swyddogion wedi'u gwasgaru ledled Cymru. Ond yn y cyfarfod cyntaf gyda'r tîm, fe wnes i rannu’r hyn roedden ni’n mynd i fod yn ei wneud, ac egluro y byddai angen i ni wneud pethau'n wahanol ond bod swyddi'n ddiogel a'n bod ni’n dal yn dîm.


"Fel tîm, rydyn ni’n tueddu i chwilio am yr ymyl arian ar y cwmwl a'r cyfleoedd ac fe wnaethon ni ddweud o'r dechrau y bydden ni i gyd yn dysgu llawer."



Arweinyddiaeth drwy argyfwng

Roedd Fiona yn awyddus i ddysgu am arwain mewn argyfwng ac roedd cynllun tri cham Deloitte - Ymateb, Adfer a Ffynnu – yn taro tant. Rhoddodd ddiweddariadau dyddiol i'r bwrdd am sut roedd ChAC yn lliniaru risg.


Ers hynny, mae’r Cynllun Gweithredu cyntaf hwnnw ar gyfer y Coronafeirws ar 10 Mawrth – lle awgrymodd Fiona senario y gallai ysgolion gau - wedi'i ddiweddaru sawl gwaith:

"Roeddwn i'n edrych ar sut gallen ni gynnwys, gohirio, ymateb ac adfer. Bob dydd, fe fyddwn i’n edrych ar ble'r oedden ni ar draws y categorïau eiddo ac offer, pobl ChAC, partneriaid a busnes.


"Fis Mawrth diwethaf, wrth gynllunio senarios, bu'n rhaid i ni gynnwys sefyllfaoedd a oedd, ar ddu a gwyn, yn teimlo braidd yn anghyfforddus. Pe baen nhw’n dod yn realiti, fe fyddai'r canlyniadau i lawer o bobl yn dorcalonnus. Fodd bynnag, un ystyriaeth wrth arwain yw rhagweld y senarios gwaethaf fel eich bod yn gallu cynllunio ar eu cyfer.

"Fe gawson ni ein hysgogi'n fawr gan ohebiaeth Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel arweiniad. Defnyddiwyd y rhain gennym ni i ystyried ystod eang o risgiau a mesurau lliniaru ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny."


Opsiwn yn lle Joe Wicks

Un o ganlyniadau arwyddocaol Covid oedd na fyddai'r miloedd o bobl (anabl) sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Cymru bellach yn gallu cymryd rhan yn y ffyrdd yr oeddent wedi arfer â nhw. Fe fownsiodd Joe Wicks i mewn i'n bywydau ni gyda byrpis, sgwatiau ac ymarferion eistedd i fyny ond doedden nhw ddim yn ymarferion cynhwysol:


"Joe Wicks oedd y man cychwyn i ni ac, i lawer, mae wedi bod yn wych. Ond roedden ni’n gwybod na fyddai ei sesiynau'n taro tant gyda phawb yng Nghymru efallai; roedd yn bosib nad oedd rhieni, cynorthwywyr personol a / neu gyfranogwyr yn gwybod sut i addasu'r sesiynau i rywbeth mwy cynhwysol. Fe wnaethon ni ddechrau gwneud ymarferion ar-lein gyda'n hathletwyr a chreu adnoddau fel ei bod yn fwy posib i weithgarwch barhau.


Lles y tîm

"Roedd cymaint oedd angen i ni ei wneud. Roedd pawb yn gweithio ar 100 milltir yr awr. Ond mae hynny wrth gwrs yn creu risg lles hefyd. Roedd y tîm yn treulio oriau o flaen cyfrifiadur, yn mynd o gyfarfod i gyfarfod, heb seibiant naturiol fel y byddech chi’n ei gael mewn swyddfa, a dim sgwrsio gyda chydweithwyr. Roedd rhai pobl ar eu pen eu hunain am y rhan fwyaf o'r dydd. Fe eglurais i wrth y tîm fy mod i’n cael trafferth weithiau hefyd. Rydyn ni’n tueddu i ragdybio, pan rydych chi mewn rôl arwain, bod angen i chi fod yr un cryf, diwyro ond roedd y gonestrwydd am fod yn fregus yn bwysig; dweud ei fod yn effeithio arnom ni i gyd a bod hynny’n iawn."


Cefnogi’r sector

Cafodd gefnogaeth gan y WSA a’i changen fasnachu, Vibrant Nation:

"Mae'r gefnogaeth gan y WSA a Vibrant Nation wedi bod yn hynod hyblyg a chefnogol gan ganolbwyntio ar y sefydliad. Mae'r WSA wedi cefnogi'r Fforwm Prif Swyddogion Gweithredol, gydag arweiniad gwych gan Beverley Lewis o Triathlon Cymru fel Cadeirydd, ac mae wedi bod yn wych i gadw llygad ar les pob un ohonom ni.


"Rydyn ni wedi gallu gwneud cynnydd yn ystod y cyfnod yma gyda datblygiad llywodraethu ar gyfer pêl fasged cadair olwyn diolch i gefnogaeth ein Rheolwr Cyfrif Llywodraethu yn Vibrant Nation ac mae'r help rydyn ni wedi’i gael drwy'r sesiynau cysondeb busnes wedi bod yn enfawr. Mae wedi bod yn galonogol iawn.


Ac wrth edrych i'r dyfodol? "Os gallwn ni oroesi hyn, fe allwn ni oroesi unrhyw beth," chwertha Fiona. "Rydw i wedi gwneud camgymeriadau yn bendant ond rydw i wedi dysgu gwersi pwysig oddi wrthyn nhw. Rydyn ni i gyd yn parhau i ddysgu ac rydyn ni

wedi dod o hyd i gyfleoedd sy'n cael effaith gadarnhaol er bod hwn yn amser pryd mae pobl anabl wedi cael eu heffeithio’n anghymesur gan y feirws.”

17 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page