top of page

GLFW

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru yn hynod falch y bydd, drwy ei changen masnachu Vibrant Nation, yn cefnogi gweithredu rhaglen y Fframwaith yn ystod y deuddeg mis nesaf. Fel y gwelir yn yr e-bost a anfonwyd at y buddiolwyr, dyma gyflwyniad a chefndir i’r fframwaith.  Rydyn ni wedi croesawu’r egwyddorion yn y fframwaith ein hunain ac mae wedi arwain ein gwaith o drawsnewid fel sefydliad. Nid yw gweithio gyda llywodraethu yn newydd i’r WSA – mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn ymwneud â sicrhau bod ein haelodau’n dod yn fusnesau cadarnach a llywodraethu da yw’r sylfaen ar gyfer hyn.

Rhyddhawyd ail fersiwn y Fframwaith yn ddiweddar gan Chwaraeon Cymru. Mae’r Fframwaith yn cadw holl egwyddorion y fersiwn gwreiddiol, ond y newid sylfaenol yn y fersiwn diweddaraf yw ei allu i gydnabod cymesuredd, gan gynnwys tri cham llywodraethu:

  • Sylfeini Llwyddiant

  • Adeiladu ar Lwyddiant

  • Cynnal Llwyddiant

Mae strategaeth newydd Chwaraeon Cymru yn diffinio cyfeiriad y sefydliad yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod a sut bydd ei egwyddorion cyllido’n addasu i adlewyrchu’r cyfeiriad hwnnw. Gallai hyn ddarparu cyfleoedd newydd posib ar gyfer buddsoddi, ac felly hefyd dull y WSA o gyfeirio buddiolwyr at gyfleoedd am gefnogaeth a ffrydiau cyllido y tu allan i’r ffynonellau mwy traddodiadol.

Fodd bynnag, oni bai eich bod chi fel sefydliad yn gallu dangos arferion llywodraethu da, bydd y cyfleoedd cyllido posib hyn yn mynd ar goll. Os ydych chi’n sefydliad sydd eisiau tyfu, datblygu neu sefydlogi, dyma’r amser i fuddsoddi egni mewn sicrhau bod eich sefydliad yn gallu elwa o’r nifer cynyddol o gyfleoedd sydd ar gael i helpu eich sefydliad i gyrraedd ei nodau.

Mae croesawu llywodraethu da’n darparu sylfeini ar gyfer cyfleoedd a thwf.

Cydweithio

Rydyn ni eisiau sicrhau bod pob cyswllt rydyn ni’n ei gael gyda chi’n ystyrlon a gwerthfawr.

Boxer
Cefnogaeth Dros y Ffôn / Cynhadledd Fideo
Sports Facility
Egwyddorion GLFW - Fideo
Lotus Pose
Hyfforddiant a Datblygiad
Underwater Dive
Cefnogaeth Uniongyrchol
Guy on SUP
Cefnogaeth Strategol
Modern Dance Teacher
Cylchlythyr
Reading Glasses
Cwestiynau Cyffredin

Gwasanaethau 

Dod i’ch adnabod chi

Yn ystod yr wythnosau sydd i ddod, byddwn yn cysylltu â chi i siarad drwy eich cynnydd llywodraethu, eich cynlluniau a’ch dyheadau, i ddeall sut gallwn ni helpu orau. Yn ychwanegol at y sgwrs hon, byddwn yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan Chwaraeon Cymru i’n helpu ni i gynyddu’r gefnogaeth fydd o’r gwerth mwyaf i’ch sefydliad chi. Cliciwch yma i weld e-bost Chwaraeon Cymru mewn perthynas â rhannu gwybodaeth.

Gwelir rhestr gynhwysfawr o’r buddiolwyr sy’n gymwys i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn drwy ddilyn y ddolen yma

Rydyn ni wedi ymestyn y gwasanaethau sydd ar gael yn sylweddol, a thrwy weithredu fel porth a denu ffynonellau eraill o gymorth sydd ar gael i’r sector dielw/busnes cymdeithasol, byddwn yn sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i bawb.

Bydd yr adran hon o’n gwefan yn esblygu yn ystod y misoedd sydd i ddod, yn seiliedig ar y ddogfen adolygedig a’ch adborth chi. Yn y cyfamser, i sicrhau pontio hwylus yn y rhaglen hon, rhestrir y gwasanaethau sydd ar gael yn awr i fuddiolwyr ar y dde:

bottom of page