top of page
Search
  • SteffHowells

HERIAU LLYWODRAETHU AR ÔL COVID

Victoria Ward sy’n adlewyrchu ar y 12 mis diwethaf ac yn edrych ar yr heriau llywodraethu sy'n ein hwynebu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.


Mae llwyddiant Fframwaith Llywodraethu ac Arwain Cymru yn glod i'r sector oherwydd mai chi sydd wedi ei saernïo a chraffu arno. Pan lansiwyd ail fersiwn y fframwaith ym mis Mehefin 2019, ychydig a wyddem y byddai'n cael ei brofi i'r eithaf naw mis yn ddiweddarach ac y byddai’n ofynnol iddo oresgyn yr heriau llywodraethu anoddaf i ni eu hwynebu ers cenhedlaeth.


Ar sail yr hyn rydym wedi'i weld o'n hymwneud â'r sector chwaraeon yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, prin yw’r 'senario cyllideb' neu’r 'cynllun cysondeb' sydd wedi goroesi erchylltra Covid yn llwyr. Felly, rhaid i hyn newid ein persbectif o ran llywodraethu. Mae'r pandemig wedi creu lle i sgwrs gyfoethocach am ein harferion llywodraethu er mwyn sicrhau hyblygrwydd mewn cynlluniau llywodraethu ac i sicrhau bod iechyd a gwytnwch sefydliad wrth galon popeth rydym yn ei wneud.


Un o'r pethau mwyaf cadarnhaol sydd wedi deillio o'r pandemig yw'r ffordd y mae wedi cyflymu cynnydd drwy ddefnyddio technoleg i ddileu rhwystrau daearyddol sydd wedi rhoi cyfle i ni i gyd gyfathrebu a rhedeg busnesau'n effeithiol a dysgu drwy ystafelloedd cyfarfod rhithwir. Mae'r pandemig hefyd wedi uno'r sector a bu newid sylweddol i ddull mwy colegol o weithio a dysgu, y mae cymaint ohonoch chi wedi ymrwymo i barhau ag ef.


Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, mae'n galonogol gweld ein sector yn frwd am y cyfle i 'adeiladu'n ôl yn well'. Er bod Covid (gobeithio) yn argyfwng cenedlaethol unwaith mewn cenhedlaeth, mae hefyd wedi rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni ailbennu ein llwybr. Bydd adeiladu o linell sylfaen o strwythur llywodraethu cadarn a chysylltiad dwfn â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau rydym wedi datblygu ein sefydliadau arnynt yn sicrhau bod ein sylfeini'n gadarn.


Wedi'i galonogi gan lwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf o gyflawni'r contract llywodraethu, mae Vibrant Nation - cangen fasnachu’r WSA - yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i gefnogi'r sector. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Chwaraeon Cymru am y cyfle i gyflawni'r contract hwn ac i chi, am fod â'r hyder ynom ni a rhoi’r cyfle i ni weithio gyda chi a'ch sefydliadau wrth iddynt barhau i ffynnu.

Wrth i ni gymryd camau gofalus allan o'r cyfyngiadau symud, hoffem fanteisio ar y cyfle yn y cylchlythyr yma i oedi ac edrych yn ôl ar rai o'ch llwyddiannau a'ch heriau ar y cyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.


Dymuniadau gorau,


Victoria Ward

Prif Weithredwr y WSA

14 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page